Deiseb Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg.
Dylai pob plentyn sy’n cael addysg allu cyrraedd ysgol neu goleg yn gwbl ddi-drafferth.
Nid yw ein strydoedd yn ddiogel i bobl ifanc dan 19 oed gerdded ar eu pennau eu hunain mwyach.
Heb gludiant uniongyrchol ar gyfer addysg i’r rhai y mae RHAID iddynt hyd yn oed fynychu tan eu diwrnod olaf ym mlwyddyn 11. Mae’r myfyrwyr hyn yn brwydro drwy salwch isorweddol, salwch cudd, neu hyd yn oed salwch heb ddiagnosis.
Y myfyrwyr sy’n byw mewn tlodi ac yn ei chael yn anodd teithio ar fws cyhoeddus hyd yn oed.
Rhagor o fanylion
Y blynyddoedd cyn TGAU neu Safon Uwch yw’r cyfnod hollbwysig mewn addysg. NI ddylai myfyrwyr fod yn brwydro i gael addysg. Dylid gwneud hyn yn hawdd.
Aeth myfyriwr blwyddyn 8 ati i deithio ar droed o’r cartref i’r ysgol un ffordd. Cymerodd gyfanswm o 1 awr a 10 munud. Nid oes ganddo salwch isorweddol ac mae’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar ôl ysgol. Roedd yn cario 6kg yn ei fag cefn yn ogystal â’i gôt.
Ar ôl y daith hon, cwynodd am draed dolurus, roedd ei ysgwyddau yn brifo ac roedd yn teimlo’n flinedig iawn.
Roedd hyn cyn diwrnod 6 awr ac mewn tywydd oer a sych.
Nid oes lle i gadw dillad sbâr na hyd yn oed ystafell sych i sychu dillad.
Mae absenoldeb yn mynd i gynyddu.
Bydd mwy o geir ar ein ffyrdd ac felly bydd yr arllyriadau’n cynyddu. Bydd ystadegau ar gyfer plant sy’n cael eu lladd mewn damwain ddifrifol yn codi.
A fyddech cystal ag adolygu’r ddeddfwriaeth hon er mwyn i’r plant allu cael mynediad at addysg yn haws neu hyd yn oed cyn i blentyn gael ei anafu’n ddifrifol.
Mae angen clywed llais plentyn. Nhw yw ein blaenoriaeth ni, allwch chi ddweud yr un peth?
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd