Deiseb a wrthodwyd Ychwanegu arwydd dim bara ar gyfer yr anifeiliaid yng ngwarchodfa natur y castell yng Nghaerffili.
Rwyf wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil ar beth sy’n iach i’r anifeiliaid (hwyaid, gwyddau ac elyrch) ac yn anffodus nid yw bara yn un ohonyn nhw. Rwy’n mynd yno o leiaf bedair gwaith yr wythnos, ac rwy’n gweld pobl yn rhoi llawer iawn o fara iddynt. Rwy’n gwybod bod bara yn gyfleus, ond mae bwyta llawer iawn ohono yn aml yn eu gwneud yn sâl.
Rhagor o fanylion
Darllenwch yr wybodaeth ychwanegol yn y linc:
https://canalrivertrust.org.uk/things-to-do/canal-and-river-wildlife/keeping-our-ducks-healthy/why-is-bread-bad-for-ducks
Mae angen deiet cytbwys ar hwyaid i fod yn iach. Nid oes gan fara lawer o werth maethol ac mae’n llenwi stumog yr hwyaden fel nad yw’n chwilio am fwydydd y byddai’n eu bwyta’n naturiol, a all arwain at ddiffyg maeth.
Gall bara gwlyb heb ei fwyta achosi i faetholion afiach gronni, a all arwain at fwy o algâu yn tyfu o amgylch dŵr, mwy o glefydau a mwy o blâu. Mae Hannah Booth, ein rheolwr amgylchedd yng Nghymru a De-orllewin Lloegr, yn esbonio: “Bydd gormod o unrhyw fwyd yn annog llygod mawr, sydd hefyd yn gallu cario clefydau a bwyta wyau a chywion ifanc.”
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi