Deiseb Ariannu clinigau ADHD ar wahân ar draws GIG Cymru. Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cael eu gorlwytho gan alw digynsail.

Mae mwy o ymwybyddiaeth o ADHD yn arwain at nifer ddigynsail o atgyfeiriadau ar gyfer sgrinio, ac ar gyfer gofal a thriniaeth ddilynol. Mae’r galw llethol yn gorlwytho clinigwyr a staff cymorth - sy'n methu â rhoi apwyntiad i gleifion tan fisoedd ar ôl dyddiadau cau RTT, methu â chymryd camau dilynol tan fisoedd ar ôl i glinigwyr ystyried bod hynny yn angenrheidiol, rhoi gwybod i feddygon teulu am ganlyniadau clinig, atgyfeirio at therapi neu wasanaethau eraill yn brydlon, ac maent yn cael eu boddi gan ymholiadau a chwynion - mae hyn yn cael effaith andwyol ar lesiant cleifion.

Rhagor o fanylion

Dim ond un enghraifft o'r sefyllfa hon yw Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Tŷ Einon yng Ngorseinon. Er bod y Prif Weithredwr yn ymwybodol o'r sefyllfa, nid yw'r cyllid ar gyfer clinigwyr a staff cymorth sydd ei angen ar gyfer clinigau ADHD yn cael ei ddarparu. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i: Ariannu’r ddarpariaeth o glinigau ar wahân ar gyfer ADHD gyda'r clinigwyr a'r staff cymorth ychwanegol sydd eu hangen yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Tŷ Einon yng Ngorseinon - a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol eraill yr effeithir arnynt yn GIG Cymru - er mwyn galluogi'r sgrinio, y gwaith dilynol, y driniaeth a'r gofal sydd eu hangen ar gleifion presennol a chleifion newydd, a’r hyn maen nhw’n ei haeddu. Mae gormod o straen ar staff presennol ac maent yn rhwystredig nad ydynt yn gallu bodloni'r galw llethol ac mae effaith hyn ar iechyd meddwl a llesiant cleifion - pob un ohonynt â chyflyrau iechyd meddwl - yn annioddefol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

9 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon