Deiseb a wrthodwyd Pwyso ar S4C i ddangos gemau Cymru Premier ar y brif sianel deledu yn ogystal a'r platfformau arlein
Yn y blynyddoedd diweddar mae llai a llai o gemau byw Cynghrair Cenedlaethol Bêl-droed Cymru, Y Cymru Premier, yn cael eu dangos ar sianel deledu S4C. Ar y foment gwelir gêm gyntaf y flwyddyn, un gêm neu ddau dros gyfnod y Nadolig, a'r gêm olaf o'r tymor.
Tra mae'r ddarpariaeth arlein yn gynhwysfawr, mae'r strategaeth hyn yn broblem am amryw reswm, a'n gnoc i'r system bêl-droed Gymreig a'r iaith wrth i Saesneg neu ddim fod yn y bariau yn hytrach na sylwebaeth Gymraeg.
Rhagor o fanylion
Clybiau a thafarnau:
Mewn clybiau ledled Cymru, o Bwllheli i Y Barri, o Gaerfyrddin i Dreffynnon, o Gaergybi i Bort Talbot roedd rhaglen Sgorio ymlaen cyn neu wedi y gêm ar y sgriniau. Nid yw hyn heddiw yn wir i raddau'n agos i'r hyn oedd. Haws yw rhoi sianel arall ymlaen, hyd yn oed os yw'r teledu'n 'glyfar' mae'n drafferth i staff prysur, achlysurol.
Pobl sydd heb deledu clyfar gartref:
Nid yw'r ganran o berchnogion teledu clyfar yn ôl yr ystadegau diweddaraf o bell ffordd yn gyflawn. 74% oedd y ffigwr drwy Brydain y cyfrif olaf.
Blaenoriaethu ailddarllediadau:
Gydag effaith y gemau yn gyhoeddus heb eu cloriannu'n iawn, efallai fod argraff nad yw'r gynghrair werth ei roi'n reolaidd ar y brif sianel, gydag ailddarllediadau, rhaglenni sydd wedi bod o'r blaen ar S4C, yn bwysicach. Pe bai pobl eisiau gweld y rhain mae nhw hefyd ar gael arlein. Ond ni fydd S4C ymlaen yn y clybiau a'r tafarnau ar b'nawniau'r penwythnos. Mae un teledu mewn clwb yn cyrraedd llawer mwy nac un mewn cartref.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Schedule 7A, Section K1). O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi