Deiseb Caniatáu mynediad AM DDIM i gronfeydd dŵr ar gyfer nofio, fel sydd wedi bod yn yr Alban ers 2003.

Nid oes digon o leoedd yng Nghymru sydd â mynediad diamheuol ar gyfer nofio.

Mae gan bron pob un o 800 o gronfeydd dŵr yr Alban fynediad agored am ddim ar gyfer nofio, ac mae hynny wedi bod ers 2003 pan ddarparodd y Ddeddf Diwygio Tir hawliau mynediad cyhoeddus i'r rhan fwyaf o ddyfroedd mewndirol. I bobl yr Alban mae'r syniad o nofio mewn cronfeydd dŵr yn gwbl normal. Mae nofio mewn cronfeydd dŵr hefyd yn gwbl gyfreithlon ac yn normal mewn llawer o wledydd eraill yn Ewrop.

Ni ddylai Dŵr Cymru fod yn elwa o adnoddau a ddylai fod am ddim.

Rhagor o fanylion

Ni ddylai manteision iechyd byw ger yr arfordir neu gael mynediad at leoedd fel Eryri fod yn gyfyngedig i'r rhai sy'n byw gerllaw neu sy'n gallu fforddio cael mynediad iddynt, pan fo cymaint o 'fannau glas' sydd heb eu defnyddio'n ddigonol eisoes yn agos at boblogaethau trefol mewndirol. Mae nofio yn yr awyr agored yn un o'r ychydig ffurfiau o ymarfer corff sydd am ddim, sydd angen ychydig iawn o ddillad neu offer arbennig, ac felly mae'n hygyrch i bobl ar incwm isel.

Mae nofio hefyd yn fwy agored i rai pobl anabl na rhedeg neu feicio.

Llofnodi’r ddeiseb hon

6 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon