Deiseb a wrthodwyd Lleihau gwyliau’r haf o 6 wythnos i 4 wythnos. Cynyddu hanner tymor mis Hydref a Mai i 2 wythnos.
Gallai cyfnod gwyliau haf byrrach ganiatáu ar gyfer gwyliau hanner tymor hirach. Y rhesymau pam? Anawsterau gofal plant - mae llawer o rieni yn cael anawsterau â gofal plant a chost cyfnodau gwyliau estynedig.
Llesiant plant - gall arwain at golli trefn arferol, effaith enfawr ar blant o gefndiroedd difreintiedig a'r frwydr i ail-addasu i'r ysgol.
Colled dysgu - gallai seibiannau byrrach ac amlach helpu i leihau colled dysgu a chadw plant yn fwy ymgysylltiedig â'u hastudiaethau drwy gydol y flwyddyn.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi