Deiseb a wrthodwyd Ariannu Gorsaf Drenau Gabalfa a’i chyflenwi erbyn 2028 - sef yr amserlen wreiddiol a gyhoeddwyd.
Gwnaeth Metro De Cymru gwreiddiol addo gorsaf drenau newydd yn y Gabalfa erbyn 2028, ac er bod hynny’n uchelgais o hyd, mae gwybodaeth ddiweddar yn awgrymu bod y cyllid ar ei chyfer bellach yn ansicr. Mae pobl leol yn pryderu am y ffaith nad yw mapiau diweddar o'r rhwydwaith bellach yn nodi bod yr orsaf "wedi'i chynllunio" ac nad oes amserlen ar gyfer ei chyflawni.
Mae lleoliad arfaethedig yr orsaf, yn agos at ardaloedd o amddifadedd lluosog yn ward Gogledd Llandaf, yn golygu y byddai’n galluogi pobl ag incwm cyfyngedig i deithio i'r gwaith neu i astudio.
Rhagor o fanylion
Mae gorsaf arfaethedig y Gabalfa yn rhan hanfodol o seilwaith trafnidiaeth a gynlluniwyd ar gyfer y ffin rhwng wardiau Gogledd Llandaf a’r Gabalfa yn ardal Mynachdy (sef ystâd gyngor gyntaf Caerdydd).
Mae lleoliad arfaethedig gorsaf y Gabalfa, yn agos at ardaloedd o amddifadedd lluosog yn ward Gogledd Llandaf, yn golygu y byddai’n galluogi pobl ag incwm cyfyngedig i deithio i'r gwaith neu i astudio, gan leihau’r angen i’r bobl hynny berchen ar gar.
Byddai'r orsaf yn ffordd gyflym, fynych a chynaliadwy i gymunedau gerllaw rheilffyrdd Treherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr, Cathays, Caerdydd a thu hwnt gyrraedd Ysbyty Prifysgol Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Byddai hyn yn lleddfu'r problemau parcio sy'n mennu ar gymunedau yng nghyffiniau’r cyrchfannau hynny.
Ardaloedd o amddifadedd lluosog yn ward Gogledd Llandaf: https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Your-Council/Have-your-say/Ask%20Cardiff%20Library/MALlC%20Ystum%20Taf%20-%20Llandaff%20North%20WIMD%202019.pdf
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi