Deiseb Cyflwyno Cyfraith Martha yng Nghymru i warantu hawl cleifion a theuluoedd i gael ail farn

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cyfraith Martha yng Nghymru, gan roi hawl gyfreithiol glir i gleifion a theuluoedd ofyn am ail farn feddygol pan gaiff pryderon ynghylch diogelwch eu hanwybyddu. Mae marwolaethau y gellir eu hatal, fel marwolaeth Martha Mills, yn dangos yr angen brys am brosesau uwchgyfeirio cyson. Mae teuluoedd yng Nghymru yn haeddu'r un amddiffyniadau ag yn Lloegr, fel na chaiff unrhyw riant na pherthynas eu diystyru pan fydd bywyd mewn perygl.

Rhagor o fanylion

Datgelodd marwolaeth Martha Mills yn Lloegr sut gellir anwybyddu pryderon teuluoedd nes ei bod yn rhy hwyr. Cafodd rhybuddion ei rhieni eu diystyru, a bu farw o salwch y gellid ei atal. Mewn ymateb, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno ‘Cyfraith Martha’ yn Lloegr, gan roi hawl gyfreithiol glir i gleifion a theuluoedd gael ail farn feddygol os nad yw pryderon yn cael eu datrys. Mae teuluoedd yng Nghymru yn haeddu'r un amddiffyniad. Nid yw methiannau o ran uwchgyfeirio, cyfathrebu a diagnosis amserol wedi'u cyfyngu i Loegr. Yng Nghymru hefyd, mae teuluoedd yn dweud eu bod nhw wedi cael eu diystyru, eu gadael yn y tywyllwch, neu eu gorfodi i ymladd i gael eu clywed tra bod bywydau yn y fantol. Byddai hawl gyson, wedi'i chefnogi'n gyfreithiol, i uwchgyfeirio materion ar draws holl genhedloedd y DU yn adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn y GIG, yn sicrhau tryloywder, ac yn achub bywydau. Rydym yn annog y Senedd i weithredu fel nad yw cleifion a theuluoedd yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl. Mae data rhyddid gwybodaeth yn dangos dros 1,000 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â sepsis mewn un ysbyty ers 2018, sy’n tynnu sylw at yr angen brys am gyfraith Martha yng Nghymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

15 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon