Deiseb a wrthodwyd Newid y gyfraith gynllunio yng Nghymru, er mwyn atal oedi wrth gydymffurfio
Mae nifer o safleoedd teithwyr wedi cyrraedd Sir y Fflint. Pob un ohonynt heb ganiatâd cynllunio. Maent wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol, ond cafodd hyn ei wrthod.
Maen nhw'n defnyddio cymhlethdodau'r gyfraith bresennol i apelio yn erbyn y penderfyniad a rhwystro unrhyw gamau gorfodi.
Rwy'n credu, er mwyn datrys y broblem hon, bod angen inni ddileu'r hawl i apelio ar achosion cynllunio sy'n ceisio caniatâd ôl-weithredol, a sicrhau bod tir yn cael ei ddychwelyd i'w gyflwr gwreiddiol o fewn 6 mis, ar ôl i ganiatâd gael ei wrthod.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi