Deiseb a wrthodwyd Cyflwyno wythnos ysgol pedwar diwrnod

Mae seibiant dau ddiwrnod yn gallu bod yn eitha byr i fyfyrwyr fel fi. Rydym yn treulio dydd Sadwrn yn gorffwys a dydd Sul yn paratoi ar gyfer yr ysgol. Dylem gael dydd Mercher, o bosib, bant inni allu gorffwys yng nghanol yr wythnos.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi