Deiseb Rhaid i Lywodraeth Cymru ddeddfu i sicrhau bod Gwarchodfeydd Natur Lleol, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Leol Cosmeston, yn cael ystyriaeth lawn.

Er gwaethaf eu dynodiad statudol, prin iawn yw’r gydnabyddiaeth y mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn ei chael yng nghynlluniau adfer natur a fframwaith bioamrywiaeth Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru rymuso cyfeillion Gwarchodfeydd Natur Lleol a grwpiau bywyd gwyllt drwy atgyfnerthu dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus i'w hystyried yn narpariaethau Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Mae rhannau o Warchodfa Natur Leol Cosmeston yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ond nid oes rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru na'r Cyngor adolygu nodweddion dynodedig, diweddaru dynodiadau, na chynhyrchu cynllun rheoli.

Rhagor o fanylion

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn amddiffyn rhywogaethau, cynefinoedd a safleoedd nythu mewn Gwarchodfeydd Natur Lleol. Nod Cyngor Bro Morgannwg yw gwneud elw o Warchodfa Natur Leol Cosmeston trwy weithgareddau parc dŵr masnachol sy'n gwrthdaro â dibenion gwarchod natur a mwynhad y cyhoedd. Drwy beidio ag asesu'r effeithiau posibl ar fywyd gwyllt a chynefinoedd wrth wahodd cynigion ar gyfer gweithgareddau hamdden ar y dŵr yn 2021 ac Aquapark eleni, ynddengys i’r cyngor dorri ei ddyletswydd mewn perthynas â Gwarchodfa Natur Leol. Mae dyletswyddau cyffredinol ar gyfer bioamrywiaeth a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac ar gyfer adfer natur (NRAP 2015) yn ddiddannedd. Mae Deddf 1981 yn cynnwys dyletswydd i atal gweithgareddau sy'n tarfu ar gynefinoedd dynodedig llygod y dŵr a thelorion Cetti. Pan ddechreuodd telorion Cetti nythu ger y parc dŵr, anwybyddodd y cyngor y 'llain glustogi' ofynnol. Dylai'r Bil newydd gynnwys proses wedi'i diffinio'n glir i’r cyhoedd gael herio cyrff swyddogol wrth i’r rheini lunio cynlluniau rheoli, cyflwyno cynigion am gyllid, ac asesu datblygiadau mewn Gwarchodfeydd Natur Lleol o dan gyfraith gynllunio.

Llofnodi’r ddeiseb hon

80 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon