Deiseb Adfer cydsyniad rhieni ar gyfer gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru
O dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, fe gollodd rhieni'r hawl i dynnu eu plant yn ôl o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Mae hyn yn berthnasol i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion ffydd.
Mae rhieni’n haeddu’r hawl i gydsynio, a gwrthod cydsynio, i addysg grefyddol sy’n mynd yn groes i gredoau’r teulu, ac i gael eu hysbysu yn glir ymlaen llaw pan fydd yr ysgol yn gwahodd cynrychiolydd ffydd allanol i gyflwyno gwersi.
Rhagor o fanylion
O dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, mae rhieni wedi colli’r hawl i dynnu eu plant o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM).
Yn ôl canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021:
“Nid oes hawl i dynnu plentyn yn ôl o addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.”
Mae hyn yn berthnasol i bob disgybl, gan gynnwys disgyblion mewn ysgolion eglwysig ac ysgolion ffydd.
Mae’n bwysig bod disgyblion yn dysgu am wahanol grefyddau a chredoau, ond rhaid i gydsyniad rhieni aros yn elfen ganolog o’r broses honno. Mae ffydd yn fater personol, a dylai teuluoedd gadw'r hawl i benderfynu sut mae eu plant yn ymwneud ag addysg grefyddol neu addysgu sy'n gwrthdaro â'u credoau nhw.
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu'r polisi hwn, adfer cydsyniad rhieni ar gyfer CGM, a sicrhau bod ysgolion yn rhoi rhybudd clir ymlaen llaw pan fydd cynrychiolwyr ffydd allanol yn cael gwahoddiad i addysgu.
Mae tryloywder a dewis yn hanfodol i gynnal ymddiriedaeth rhwng ysgolion, teuluoedd a chymunedau.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd