Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a gwblhawyd Dychwelyd yr holl M4 i'r terfyn cyflymder 70mya, yng Nghymru. Dileu'r holl derfynau cyflymder is sy'n cael eu gorfodi arnom.
Mae'r MWYAFRIF LLETHOL o’r farn nad oes angen y terfyn cyflymder 50mya ym Mhort Talbot. Mae hyn hefyd yn wir am y terfyn 50mya a gyflwynwyd o amgylch Casnewydd. Mae'n atal ein gallu i deithio'n rhydd ac yn achosi tagfeydd diangen. Mae'r Llywodraeth yma i wasanaethu'r bobl a gwella eu bywydau. Mae hwn yn derfyn cyflymder is nad yw pobl yn gweld ei eisiau na’i angen. Mae ceir modern yn gallu teithio'n ddiogel iawn gyda phellteroedd brecio llawer gwell na cheir hŷn pan oedd 70mya yn derfyn cyflymder safonol ar y draffordd.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon