Deiseb Parhau i ariannu Technocamps i ddarparu'r cymorth y mae ysgolion ac athrawon ledled Cymru yn dibynnu arno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i ariannu prifysgolion Cymru (Technocamps) i gefnogi athrawon Cymru, ac yn lle hynny mae’n rhoi £1.4m i Brifysgol Efrog ddarparu adnoddau ar-lein ar gyfer hyn. Mae hyn yn warthus: o ran colli cymorth lleol hanfodol wyneb yn wyneb i athrawon Cymru, ac o ran yr amarch y mae hyn yn ei ddangos tuag at Gymru a phrifysgolion Cymru sy'n awyddus i gefnogi eu hysgolion lleol ond yn colli eu cyllid ar gyfer hyn, sydd wedyn yn cael ei roi - mewn symiau llawer mwy - i brifysgol yn Lloegr.

Rhagor o fanylion

Ers 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prifysgolion Cymru (Technocamps) i helpu pob athro ledled Cymru i ymdopi â heriau addysg ddigidol, a hynny drwy ganllawiau a hyfforddiant dwyieithog wyneb yn wyneb. Mae athrawon yn dal i wynebu heriau cynyddol anodd oherwydd datblygiadau cyflym ym maes technoleg ddigidol, ac maent wedi dod yn ddibynnol ar ddealltwriaeth Technocamps o Gwricwlwm Cymru a’u cymorth ar ei gyfer. Mae llwyddiant llawer o fentrau'r Adran Addysg a Sgiliau (Fframwaith Cymhwysedd Digidol, cymwysterau DigiTech, micro:bit, prosiectau seiber a deallusrwydd artiffisial, ac ati) yn dibynnu'n helaeth ar gymorth Technocamps.

Yn rhyfeddol, dim ond 7% o gyllid cymorth y Cwricwlwm sy'n mynd i'r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a hynny mewn dau grant i sefydliadau yn Lloegr; mae'r 93% sy'n weddill yn mynd i'r pum Maes Dysgu a Phrofiad arall. Mae rhoi cyn lleied o gymorth i'r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg - ac yn enwedig cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol - yn frawychus ac yn anesboniadwy, gan fod hyn yn arwain at ddim ond dirywiad mewn cyrhaeddiad yn y pynciau digidol a STEM, ac yn y pen draw dirywiad yn ffyniant economaidd Cymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

1,795 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon