Deiseb Condemnio'r grŵp asgell dde eithafol 'White Vanguard' yng Nghymru, ac ymchwilio iddo
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gondemnio White Vanguard a chymryd camau yn erbyn y grŵp, y mae ei aelodau wedi ymuno â gwrthdystiadau wythnosol y tu allan i'r Holiday Inn Express yn y Rhws, sy'n lletya teuluoedd o Affganistan sydd yma'n gyfreithlon o dan gynllun adsefydlu'r Llywodraeth. Mae'r grŵp yn arddangos sloganau gwrthsemitaidd, yn perfformio saliwtiau Natsïaidd, ac yn lledaenu damcaniaethau cynllwyn hiliol, gan fygwth diogelwch a chydlyniant cymunedol.
Rhagor o fanylion
Mae'r gwrthdystiadau hiliol parhaus yn y Rhws wedi codi ofn ar drigolion a grwpiau cymunedol. Mae'r protestiadau swnllyd a sarhaus hyn yn bygwth teuluoedd o Affganistan, pobl o bob cefndir a'r unigolion sy'n croesawu ffoaduriaid. Mae protestwyr wedi perfformio saliwtiau Natsïaidd, wedi gweiddi sloganau ffiaidd ac wedi peryglu diogelwch y cyhoedd. Mae'r bygythiad wedi tyfu gyda dyfodiad White Vanguard, y mae ei aelodau yn gwisgo mygydau ac yn dangos symbolau Natsïaidd a sloganau gwrthsemitaidd.
Er bod gwahardd grwpiau eithafol yn fater i Swyddfa Gartref y DU, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
• annog Llywodraeth y DU i ymchwilio i White Vanguard a gwahardd y grŵp;
• condemnio’n gyhoeddus weithgaredd neo-Natsïaidd yng Nghymru;
• gweithio gyda Heddlu De Cymru a’r cynghorau i ymdrin â bygythiad yr asgell dde eithafol; a
• chefnogi cymunedau drwy fentrau gwrth-hiliol a mentrau diogelu.
Rydym yn annog y Senedd i ddangos nad oes lle i gasineb yng Nghymru.
Cyflwynir y ddeiseb hon gan The Vale for Palestine, grŵp cymunedol sydd wedi'i leoli ym Mro Morgannwg.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd