Deiseb a gaewyd Gwahardd siopau sy'n gwerthu fêps fel melysion; gwahardd marchnata a brandio steil melysion i atal fepio dan oed

Mae fepio ymhlith pobl dan oed yn cynyddu yng Nghymru. Mae llawer o siopau'n gwerthu fêps mewn pecynnau steil melysion gydag enwau sy'n addas i blant, gan wneud fepio ymddangos yn weledol ddeniadol ac apelgar. Mae dod i gysylltiad â nicotin yn niweidio datblygiad yr ymennydd a gall arwain at fod yn gaeth. Mae siopau sy'n defnyddio brandio a dyluniadau tebyg i felysion yn normaleiddio fepio i bobl ifanc. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd siopau rhag gwerthu fêps sy’n ymddangos yn debyg i felysion, a rhoi’r gorau i farchnata, pecynnu a brandio steil melysion er mwyn amddiffyn pobl ifanc a lleihau fepio dan oed.

Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

321 llofnod

Dangos ar fap

10,000