Deiseb Cyflwyno cynllun Incwm Sylfaenol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru, wedi'i fodelu ar fenter lwyddiannus Iwerddon.

Mae Iwerddon wedi lansio cynllun peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer y Celfyddydau sy'n rhoi €325 yr wythnos i 2,000 o artistiaid a gweithwyr diwylliannol. Mae'r cynllun wedi lleihau pryder ariannol, cynyddu cynhyrchiant creadigol, a chryfhau economi ddiwylliannol Iwerddon.
Gall Cymru arwain y DU drwy gyflwyno menter debyg.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i:
• Gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i archwilio fersiwn Gymreig o raglen Iwerddon.
• Dylunio cynllun peilot 3 blynedd sy'n cynnig incwm sylfaenol rheolaidd i o leiaf 1,000 o bobl greadigol yng Nghymru.
• Ariannu a gwerthuso'r cynllun peilot drwy Cymru Greadigol, mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru a Thîm Gwerthuso Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru.

Rhagor o fanylion

Byddai'r fenter hon yn adeiladu ar Gynllun Peilot Incwm Sylfaenol llwyddiannus Cymru ar gyfer Pobl Ifanc sy'n Gadael Gofal (2022–2024) ac yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ymrwymo'r llywodraeth i lesiant diwylliannol ac economaidd cynaliadwy.
Nid cardod yw cefnogi artistiaid — seilwaith ydyw.
Mae dosbarth creadigol diogel yn sbarduno arloesedd, twristiaeth, llesiant a hunaniaeth genedlaethol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

6 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon