Deiseb Condemnio ac ymchwilio i'r grŵp asgell chwith 'Antifa' yng Nghymru
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gondemnio a chymryd camau yn erbyn “Antifa”. Mae protestwyr/cynrychiolwyr gwrth-ffasgaidd wedi ymuno â gwrthdystiadau wythnosol y tu allan i'r Holiday Inn Express yn y Rhws, sy'n darparu llety i deuluoedd o Afghanistan sydd yma o dan gynllun adsefydlu'r Llywodraeth.
Mae'r grŵp yn arddangos arwyddion gwrth-ffasgaidd, yn perfformio siantiau gwrth-ffasgaidd, ac yn lledaenu damcaniaethau cynllwyn gwrth-ffasgaidd ffug, gan fygwth diogelwch a chydlyniant y gymuned Gymreig frodorol yng Nghymru.
Rhagor o fanylion
Yn ystod digwyddiad Reform UK yng Nghaerffili (Hydref 2025), honnwyd bod ymgyrchwyr sy'n gysylltiedig ag Antifa wedi bygwth mynychwyr, fandaleiddio eiddo, a difwyno posteri gyda symbolau Natsïaidd.
Mae protestiadau asgell chwith tebyg yn y Rhws wedi rhoi straen ar adnoddau'r heddlu, gan ddargyfeirio arian o wasanaethau hanfodol Cymru. Mae Antifa yn aml yn atal rhyddid barn trwy labelu lleisiau cenedlaetholgar neu frodorol fel "ffasgaidd," tra'n cymryd rhan mewn cam-drin ac ymddygiad treisgar.
Mae digwyddiadau yn y gorffennol, fel y gwrthdaro yng Nghaerdydd yn 2014 yn ystod protest o blaid Palesteina, yn dangos sut y gall gwrthdystiadau o'r fath ddwysáu i droi’n anhrefn cyhoeddus.
Honnir bod protestwyr hyd yn oed wedi meimio bygythiadau tuag at blant heb i’r heddlu weithredu. Mae rhai protestwyr asgell chwith wedi’u cyhuddo o gefnogi grwpiau eithafol gwaharddedig.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gondemnio gweithgarwch Antifa, annog Llywodraeth y DU i ymchwilio iddo a'i wahardd, cydweithredu â'r heddlu a chynghorau i wrthsefyll bygythiadau, a diogelu cydlyniant cymunedol. Nid oes lle i Antifa nac unrhyw grŵp sy'n tawelu eraill yng Nghymru.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd