Deiseb Dylid gorfodi Safonau Llywodraeth Cymru o ran holl Weithredwyr Meysydd Parcio GIG Cymru

Rydym yn cyflwyno deiseb i Senedd Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gorfodi ei chanllawiau parcio ceir ei hun (WHC (2018) 011) ar bob cwmni preifat sydd wedi'i gontractio gan Fyrddau Iechyd y GIG. Mae’r polisi yng Nghymru yn nodi y dylai parcio mewn ysbytai fod am ddim, gyda phroses orfodi gymesur, ddi-elw a phroses apelio dosturiol.

Rhagor o fanylion

Mae'r realiti yn wahanol iawn. Mae cleifion, ymwelwyr a staff y GIG yn cael eu herlid yn frwd gan gwmnïau preifat am broblemau parcio bach. Mae’r cwmnïau hyn:
• Yn rhoi blaenoriaeth i elw yn hytrach na chleifion, ac yn cymell dirwyon a throi meysydd parcio ysbytai yn 'ddulliau o wneud arian'.
• Yn gweithredu heb dryloywder - mae’r Byrddau Iechyd yn gwrthod datgelu’r refeniw sy’n deillio o ddirwyon, ac maent yn nodi "buddiannau masnachol" fel rheswm am hyn (e.e., Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Cyfeirnod cais Rhyddid Gwybodaeth: 24/339).
• Yn cynnal systemau apelio annynol—mae apeliadau cychwynnol wedi'u cynllunio i fethu, gan achosi straen i bobl, a gorfodi pobl agored i niwed i dalu dirwyon neu wynebu dyled sy'n cynyddu.
Mae hwn yn fethiant o ran goruchwyliaeth, sy'n caniatáu i gwmnïau preifat elwa o bobl sy'n sâl, y rhai sy'n agored i niwed, a staff y GIG.
Rydym yn galw am y canlynol:
• Tryloywder llawn o ran yr holl refeniw a ddaw o Hysbysiadau Cosb am Barcio ar eiddo GIG Cymru.
• Mandad bod pob contract Bwrdd Iechyd yn gorfodi canllawiau Llywodraeth Cymru.
• Proses apelio cam cyntaf syml, sef, dan arweiniad y GIG, i atal gwrthodiadau o ran achosion sy’n ddilys, ar sail templedi.

Llofnodi’r ddeiseb hon

4 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon