Deiseb Defnyddiwch y Rheolaeth 10c Ddatganoledig ar gyfer Toriad Treth Cyfrannol mewn Ymateb i Godiadau Treth y DU

Gydag incwm Cymru ond yn 92.6% o’r cyfartaledd incwm yn y DU, rydym yn galw am ddefnyddio pwerau trethu datganoledig yn strategol i ostwng Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) yn gymesur, a hynny mewn ymateb i unrhyw gynnydd mewn treth incwm ledled y DU.
Mae hyn yn angenrheidiol i atal y diffyg o ran cyflogau rhag ehangu, i ddenu busnesau gwerth uchel, ac i adeiladu economi gystadleuol ar gyfer Cymru sydd yn y pen draw yn cynyddu’r sylfaen drethu, gan ddarparu refeniw trethu cyffredinol uwch i Lywodraeth Cymru yn yr hirdymor.
Mae incwm yng Nghymru yn sylweddol is na chyfartaledd y DU. Mae'r bwlch cyflog difrifol hwn yn arwain at fod incwm gweithwyr yng Nghymru yn 92.6% yn unig o gyfartaledd y DU. Mae hwn yn 'nenfwd incwm is' parhaus sy'n gwthio ein talentau gorau dros y ffin, ac yn ein gwneud yn llai deniadol i fuddsoddwyr mawr.

Rhagor o fanylion

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i godi trethi, ac mae’r trafodaethau’n canolbwyntio ar gynnydd posibl o 1c neu 2c yn y bunt i’r dreth incwm.
Mae cyfradd treth incwm is ar unwaith yn gwneud Cymru y lleoliad mwyaf deniadol yn y DU i fusnesau sy'n awyddus i adleoli, ac i weithwyr proffesiynol medrus iawn sy'n awyddus i ennill cyflog net uwch.
Mae trethiant personol is yn gymhelliant uniongyrchol i sectorau twf uchel, cwmnïau technoleg, a gwasanaethau ariannol sefydlu presenoldeb yng Nghymru, gan greu swyddi cynaliadwy â chyflogau da.
Drwy ostwng Cyfraddau Treth Incwm Cymru, gall Llywodraeth Cymru drawsnewid naratif Cymru o un o ddiffyg incwm i un o genedl gystadleuol, uchelgeisiol ac o dwf sylweddol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

5 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon