Deiseb Cadw plant sy’n siarad Cymraeg ac sydd ag anghenion cymhleth yng Nghymru — rhoi’r gorau i’w lleoli yn Lloegr

Mae plant sy'n siarad Cymraeg ac sydd ag anghenion ychwanegol difrifol a chymhleth yn cael eu hanfon i Loegr oherwydd nad oes lleoliadau addas yng Nghymru. Rydym yn galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg leol ar frys.

Rhagor o fanylion

Mae fy mab yn blentyn sy'n siarad Cymraeg ac sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, gan gynnwys awtistiaeth, ARFID, Pica, a gorbryder. Nid oes lleoliadau lleol addas yng Ngogledd Cymru, felly rhaid iddo fynd i Loegr — ymhell o'i gartref, ei deulu a'i iaith.

Mae llawer o deuluoedd yn wynebu'r un sefyllfa dorcalonnus. Mae plant yn cael eu hanfon i ffwrdd oherwydd diffyg darpariaeth arbenigol yng Nghymru.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
• Greu lleoliadau lleol ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth
• Datblygu ac ariannu darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg

Ni ddylai unrhyw blentyn orfod gadael Cymru neu golli ei iaith i gael y cymorth y mae ei angen arno.

Llofnodi’r ddeiseb hon

309 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon