Deiseb Cyfoeth Naturiol Cymru i ddechrau carthu afonydd Cymru yn rheolaidd gyda chefnogaeth y Senedd

Cafodd ein rhaglen carthu arferol ei hisraddio yn y 1990au, yn bennaf oherwydd Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE. Ers hynny, o dipyn i dipyn, mae ein hafonydd wedi cael eu tagu, gyda gostyngiad yn eu capasiti dŵr a chynnydd mewn ymchwyddiadau llanw. Mae hyn wedi arwain at lifogydd rheolaidd a dinistriol, at orlifoedd sydd yn aml yn arwain at golli cartrefi, busnesau ac yn anffodus bywydau, ac at niwed i’r tir, i ffermydd, i fywyd gwyllt ac i dda byw. Erbyn hyn, pan fydd afonydd yn gorlifo, mae’n effeithio ar ein ffyrdd hyd yn oed, gan beryglu bywydau pobl o ganlyniad.

Rhagor o fanylion

Yn anffodus, yma yng Nghymru, mae'n ymddangos ein bod yn cael ein gwasanaethu gan gynghorau annigonol sy'n ei chael hi'n anodd cynnal a chadw ein priffyrdd a'n systemau draenio i ymdopi â'r cynnydd yn y glawogydd/llifogydd yng Nghymru. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r awdurdod sy'n cynnal a chadw ein dyfrffyrdd, ymhlith pethau eraill.
Rhaid inni ailddechrau carthu ein hafonydd yn rheolaidd fel eu bod yn gallu cario dŵr glaw ac ati hyd eithaf eu gallu. Nid dargyfeirio a phlannu coed yw'r unig atebion: mae angen i ni ddadflocio rhydwelïau Cymru, sef ein hafonydd!
Gofynnwn am eich cefnogaeth o ran galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddiadau, a chymorth ariannol, i Cyfoeth Naturiol Cymru i gychwyn rhaglen garthu ar unwaith, a hynny er mwyn lleihau'r llifogydd parhaus a gostwng nifer y bywydau, da byw, busnesau a chartrefi a gollir. Mae'r llifogydd hyn yn niweidio ein heconomi, ein hamgylchedd a'n hecoleg – mae angen i ni gydweithio i leihau'r difrod maen nhw'n ei achosi.

Llofnodi’r ddeiseb hon

26 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon