Deiseb a wrthodwyd Darparu hanfodion gaeaf a haf i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru.

Rydym am i bob plentyn gael pecynnau haf a gaeaf. Ym mhecyn y gaeaf, rydym am i chi ddarparu het, sgarff, menig a sanau cynnes. Ym mhecyn yr haf, rydym am i chi ddarparu eli haul, het, potel ddŵr a sbectol haul. Byddai hyn ar gyfer pob plentyn yn yr ysgol gynradd yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Byddai pasio'r gyfraith hon yn golygu y byddai pob plentyn yn teimlo'n gyfartal ac nad yw wedi’i eithrio. Byddai hyn yn helpu’r holl blant i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a byddai’n lleihau bwlio am rywbeth nad oes ganddyn nhw. Byddai’n sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn a’u cadw’n iach. Byddai’r cyfraddau gofal iechyd yn gostwng wrth i lai o bobl gael canser y croen, strôc haul neu ewinrhew yn y dyfodol agos. Byddai hyn yn arbed llawer o arian i'r GIG. Gallai gynyddu presenoldeb mewn ysgolion gan na fyddai gan blant gywilydd mynd i'r ysgol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi