Deiseb Mae andropos yn beth dilys, ac mae dynion yn haeddu cefnogaeth hefyd. Peidiwch â gadael dynion ar ôl - Gofal andropos i Ogledd Cymru
Nid oes dim gwasanaethau andropos pwrpasol yng Nghymru.
Yn aml, caiff dynion sy'n profi symptomau andropos ddiagnosis anghywir, cânt eu diystyru, neu rhoddir tabledi gwrth-iselder iddynt yn lle profion hormonau priodol.
Mae gan ddynion yng Ngogledd Cymru yr hawl i gael cefnogaeth briodol ar gyfer andropos, ac eto, ar hyn o bryd nid oes dim gwasanaethau andropos pwrpasol yn unman yng Nghymru.
Rydym yn galw am greu Clinig Andropos arbenigol yn Ysbyty Gwynedd ar unwaith, ar gyfer bod yn batrwm i weddill Cymru.
Mae symptomau andropos yn cael camddiagnosis neu eu diystyru. Yn aml, rhagnodir tabledi gwrth-iselder i ddynion yn lle rhoi prawf hormonau yn y gwaed llawn, ac yn aml fe'u gadewir heb fynediad at driniaeth a chymorth priodol.
Rhagor o fanylion
Gall andropos heb ei drin achosi:
• Blinder difrifol, hwyliau isel, pryder ac iselder.
• Straen ar berthnasoedd a bywyd teuluol.
• Dynion yn gadael cyflogaeth oherwydd iechyd sy'n dirywio.
• Risg uwch o hunanladdiad ymhlith dynion sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw unman i droi.
Rydym yn gofyn am:
• Glinig Andropos arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, fel y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
• Hyfforddiant priodol i feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol i adnabod a thrin andropos.
• Addysg gyhoeddus fel bod iechyd hormonaidd dynion yn cael ei drafod yn agored, yn union fel y menopos.
• Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau iechyd dynion pwrpasol ledled Cymru.
Pam Mae Hyn yn Bwysig
Mae cefnogi dynion drwy andropos yn arwain at:
• Ddynion iachach, a theuluoedd iachach
• Llai o bwysau ar wasanaethau iechyd meddwl
• Cymunedau a gweithleoedd cryfach.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd