Deiseb a wrthodwyd Deddfu mwy o hawliau cyfreithiol i natur yng Nghymru

Mae Cymru yn hynod o flaengar yn amgylcheddol. Ac eto mae ein natur yn dirywio (CNC: dirywiad o 20% mewn bywyd gwyllt yn y 30 mlynedd diwethaf). Mae angen amddiffyniadau mwy gweithredol ar ein hamgylchedd er mwyn “cynnal a gwella bioamrywiaeth” fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd. Rydym yn annog Cymru i fynd ymhellach yn ei chamau gweithredu, gan roi hawliau cyfreithiol penodol i rannau o'r amgylchedd (afonydd, coedwigoedd a mynyddoedd). Mae rhoi hawliau cyfreithiol yn golygu y gall byd natur ein plentyndod ni fod yr un fath i blentyndod cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda manyleb ar gyfer rhannau o natur Cymru i'w gwarchod, gallwn ddiogelu ein bioamrywiaeth hardd yn well, o goedwigoedd Eryri i Afon Gwy a mwy.

Rhagor o fanylion

Bydd y Bil Amddiffyniadau Cyfreithiol Uwch ar gyfer Natur Cymru yn:
Sefydlu fframweithiau er mwyn i elfennau penodol o natur (e.e. parciau cenedlaethol, afonydd a'u basnau draenio) ennill statws gwarchodedig fel sail ar gyfer diogelu (ardaloedd cadwraeth arbennig)
Sicrhau bod rheoleiddiwr â phwerau cryfach a gorfodi amddiffyniadau yn well ar gyfer ardaloedd cadwraeth arbennig ac adfer bioamrywiaeth
Cael canlyniadau sylweddol (cyfyngiadau ar weithredu) ar gyfer gweithredoedd niweidiol i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, yn enwedig i weithredwyr sydd â hanes o wneud hynny
Sefydlu adolygiadau cyfnodol o gyflwr yr ardaloedd cadwraeth arbennig hyn, gan sicrhau bod cyflwr dymunol natur yn cael ei gynnal (mynegai bioamrywiaeth, llif dŵr, lefel llygredd)

Mae rhoi hawliau cyfreithiol yn atal y rhai sy'n ceisio ei niweidio er eu lles eu hunain, yn erbyn buddiannau a llesiant Cymru, fel y gellir rhoi stop arnynt.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi