Deiseb a wrthodwyd Ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol uwchradd gael llyfrgell sy'n gweithredu'n llawn a llyfrgellydd.

Nid oes gan lawer o ysgolion uwchradd ledled Cymru lyfrgelloedd sy’n addas ar gyfer y cyfnod modern, ac maent yn cynnwys llyfrau sydd wedi'u difrodi ac sydd wedi dyddio a diffyg cyfrifiaduron sy'n gweithio. Ar ben hyn, nid oes gan lawer o lyfrgelloedd mewn ysgolion lyfrgellwyr, sy’n golygu bod rhaid i ysgolion ymestyn eu hadnoddau er mwyn eu cadw ar agor. Mae hyn yn arwain at fyfyrwyr yn methu â defnyddio llyfrgelloedd i'w potensial llawn ar gyfer dysgu ac adolygu. Rydym yn cynnig y dylai pob ysgol uwchradd yng Nghymru gael llyfrgell sy’n llawn cyfarpar a llyfrgellydd.

Rhagor o fanylion

Hoffem weld fframwaith tebyg i strategaeth llyfrgelloedd ysgolion Llywodraeth yr Alban (2018-2023). Credwn y bydd hyn yn helpu i orfodi'r nodau a nodwyd yng nghwricwlwm Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru (2022). Mae'r ddogfen "Fframwaith Llythrennedd Gwybodaeth ar gyfer Cymru" (a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2009) yn hyrwyddo ymchwil a sgiliau darllen, er nad yw hyn yn rhwymol. Credwn y gall ein deiseb helpu i gyflawni hyn.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi