Deiseb Arwain ar ddatrysiad hirdymor i liniaru llifogydd yn nalgylch y B4318 a Dinbych-y-pysgod, a chyllido datrysiad o’r fath
Mae'r B4318 yn dioddef llifogydd dro ar ôl tro, sy’n amharu ar lwybr mynediad allweddol i Ddinbych-y-pysgod. Er mai Cyngor Sir Penfro sy’n cynnal a chadw'r ffordd, caiff llifogydd eu hachosi gan ddŵr ffo, lefelau uchel yr afon Ritec a chloi llanwol yng ngollynfa Traeth y De yn ystod y penllanw. Mae'r ffactorau cyfunol hyn yn golygu na all unrhyw fesurau lliniaru sy’n gysylltiedig â’r priffyrdd lleol ddatrys y broblem ar eu pennau eu hunain.
Rhagor o fanylion
Mae llifogydd ar y B4318 yn ddigwyddiad cyson ac aflonyddol, gan effeithio ar drigolion, busnesau, y gwasanaethau brys, ysgolion a'r economi leol. Rydym eisoes wedi mynd ar drywydd opsiynau lleol, ond mae’r opsiynau hyn wedi'u cyfyngu gan ffactorau y tu hwnt i reolaeth y cyngor, gan gynnwys capasiti afonydd, draeniad dalgylchoedd a chyfyngiadau ar ollwng arfordirol. Mae newid hinsawdd yn cynyddu amlder a difrifoldeb glaw a llifogydd sy'n gysylltiedig â'r llanw, gan wneud y sefyllfa'n anghynaliadwy.
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnig arweinyddiaeth genedlaethol drwy gydgysylltu’r cyrff perthnasol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Penfro, i asesu'r dalgylch llawn, gan gynnwys dylanwadau dŵr wyneb, afonydd a’r llanw. Mae angen ateb hirdymor arnom sy'n wydn o ran newid hinsawdd, wedi'i gefnogi gan gyllid cyfalaf priodol, i warchod mynediad i Ddinbych-y-pysgod a lleihau'r risg barhaus i'r gymuned oherwydd llifogydd.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd