Deiseb Adfer cyllid Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod meddygfa Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn aros ar agor
Ers colli’r Warant Isafswm Incwm Practis (MPIG) yn 2015, mae meddygfa Llanrhaeadr wedi cael ei chefnogi drwy gyllid ychwanegol. Y rheswm a roddwyd dros ddarparu’r cyllid ychwanegol hwn oedd yr angen i ddarparu gwasanaethau meddygol a gwasanaethau fferyllol o gangen sydd wedi’i lleoli mewn ardal fawr, unigryw ac anghysbell yng ngogledd Powys. Nid yw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bellach yn bwriadu darparu cyllid ychwanegol i gadw'r gangen hon ar agor yn y tymor hir.
Rhagor o fanylion
Yn sgil toriadau i’w gyllid, mae Practis Grŵp Llanfyllin (practis fferyllol aml-safle mawr yng nghefn gwlad) wedi gorfod cyhoeddi rhybudd y bydd yn cau ei ganolfan feddygol yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar y gofal sylfaenol a ddarperir yn yr ardal wledig hon. Bydd y bygythiad uniongyrchol i’r ganolfan feddygol yn Llanrhaeadr yn effeithio ar gynaliadwyedd Practis Grŵp Llanfyllin yn y tymor hwy, gan arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau a mwy fyth o bwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys.
Rydym yn mynnu bod y Senedd yn adolygu’r cyllid a ddarperir ar gyfer gofal sylfaenol yn Sir Drefaldwyn/Powys er mwyn sicrhau darpariaeth deg i bob claf. Fel yr unig endid sy’n darparu gofal sylfaenol a gwasanaethau fferyllol mewn ardal sy'n ymestyn dros 460 o filltiroedd sgwâr, rhaid sicrhau bod Practis Grŵp Llanfyllin yn gallu cadw ei dri safle presennol ar agor, a hynny er mwyn sicrhau bod gan bawb yn yr ardal eang ac unigryw hon o Bowys fynediad at ofal iechyd.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd