Deiseb a wrthodwyd Darparu Mynediad at Therapi Chwarae ym mhob Ysgol Gynradd yng Nghymru

Dylid cyflwyno gofyniad i ysgolion cynradd yng Nghymru gael mynediad at therapydd chwarae cymwysedig ar gyfer disgyblion sy'n cael trafferth yn emosiynol, yn gymdeithasol neu'n academaidd. Mae therapi chwarae yn fodd i blant gyfleu meddyliau/teimladau efallai nad oes ganddyn nhw'r iaith i'w mynegi eto. Byddai ymgorffori mynediad at therapi chwarae mewn ysgolion cynradd yn sicrhau ymyrraeth gynnar, yn lleihau anawsterau iechyd meddwl hirdymor ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant, llesiant ac addysg gynhwysol.

Rhagor o fanylion

Mae llesiant emosiynol plant yn hanfodol i ddysgu, perthnasau a llwyddiant yn yr ysgol a thu hwnt. Mae llawer o ddisgyblion cynradd yn wynebu gorbryder, trawma, anawsterau ymddygiad, anghenion dysgu ychwanegol, chwalfa deuluol, straen sy'n gysylltiedig â thlodi, neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Gall y problemau hyn ymddangos fel aflonyddwch, mynd i gragen, neu dangyflawni tra na fydd anghenion yn cael eu diwallu yn yr ysgol.

Manteision Darparu Therapi Chwarae mewn Ysgolion Cynradd:
- Ymyrraeth gynnar ac atal,
- Gwell llesiant emosiynol,
- Gwell canlyniadau dysgu,
- Llai o heriau ymddygiadol,
- Llai o bwysau ar athrawon a gwasanaethau AAA,
- Gwell cynhwysiant a chydraddoldeb,
- Manteision cymdeithasol ac economaidd hirdymor

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
Ymrwymo i ariannu a gweithredu mynediad at therapyddion chwarae cymwysedig ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru.
Integreiddio therapi chwarae i fframweithiau llesiant ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY) presennol.
Sicrhau mynediad amserol a theg i bob disgybl sydd angen cymorth.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi