Deiseb a wrthodwyd Newid Deddf Tai (Cymru) 2014 - Rhoi stop ar gartrefu troseddwyr mewn ardaloedd preifat sefydledig.
Dyma gyfle i newid Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae llawer o gynghorau lleol yn rhoi ad-droseddwyr, troseddwyr peryglus a throseddwyr rhyw yn ôl yn y gymuned leol mewn ardaloedd anaddas.
Mae ond yn deg sicrhau bod pobl ddigartref yn cael gofal, ond mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i'r risg a'r ansefydlogrwydd sy’n cael ei achosi gan denantiaid a pherchnogion yn gadael eiddo oherwydd y straen o fyw ar bwys unigolion sy'n tarfu ar yr ardaloedd y maent wedi cael eu cartrefu ynddynt.
Dylai cynghorau osgoi cartrefu cyn-droseddwyr mewn cymunedau preswyl lle ystyrir y rhan fwyaf o’r eiddo yn eiddo preifat neu’n eiddo ar rent: dylid ceisio darparu cartrefi mewn ardaloedd sy’n helpu o ran adsefydlu. Mae angen i ni amddiffyn a diogelu ein cymunedau.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi