Deiseb Amddiffyn gwasanaethau meddyg teulu ym Meddygfa’r Sarn, Pont-iets.

Mae Meddygfa’r Sarn yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol hanfodol i gleifion ym Mhont-iets a’r ardal wledig gyfagos. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystyried cynigion ar 29 Ionawr i adolygu’r trefniadau presennol a’r posibilrwydd o rannu cleifion rhwng practisau meddyg teulu cyfagos o 30 Mehefin 2026. Nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud. Mae trigolion yn pryderu bod hyn yn eu gorfodi i deithio’n bellach ac yn amharu ar y parhad gofal iddynt. Mae’r deisebwyr yn gofyn i’r Senedd graffu ar y mater hwn cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.

Rhagor o fanylion

Mae Meddygfa’r Sarn yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i gleifion ym Mhont-iets a’r ardal wledig gyfagos, gan gefnogi teuluoedd, trigolion hŷn, a’r rhai sydd â mynediad cyfyngedig at drafnidiaeth. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd yn ystyried y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol mewn cyfarfod Bwrdd ar 29 Ionawr. Mae papur yn argymell adolygu’r trefniadau presennol ac yn cynnig rhannu cleifion rhwng practisau meddyg teulu cyfagos o 30 Mehefin 2026. Nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud. Mae trigolion yn pryderu bod hyn yn eu gorfodi i deithio’n bellach, yn amharu ar y parhad gofal iddynt, ac yn rhoi mwy o bwysau ar bractisau cyfagos, gan effeithio ar gleifion hŷn ac agored i niwed yn arbennig. Mae’r deisebwyr yn gofyn i’r Senedd graffu ar y mater hwn i sicrhau y caiff barn y gymuned ei chlywed a bod effeithiau’n cael eu hystyried yn llawn cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.

Llofnodi’r ddeiseb hon

3 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon