Deiseb Ei gwneud yn orfodol cyflwyno system monitro arogleuon awtomataidd parhaus ym mhob safle tirlenwi ledled Cymru
Mae cymunedau ledled Cymru yn wynebu arogleuon parhaus o safleoedd tirlenwi sy'n effeithio'n sylweddol ar eu hiechyd, lles ac ansawdd bywyd. Mae monitro presennol yn dibynnu'n fawr ar ymweliadau safle achlysurol, hunan-adrodd gan weithredwyr ac ymchwiliadau mewn ymateb i gwynion, ac mae hyn yn aml yn methu â chofnodi effeithiau mewn amser real. Heb fonitro awtomataidd parhaus, gall digwyddiadau arogl niweidiol fynd heb eu canfod, neu gellir gwadu eu bod yn digwydd neu eu bod yn ddifrifol, gan adael trigolion heb amddiffyniad effeithiol na thryloywder.
Rhagor o fanylion
Mae technoleg awtomataidd ar gyfer monitro aroglau a nwy eisoes ar gael ac yn cael ei defnyddio'n rhyngwladol. Byddai data parhaus yn gwella tryloywder, yn galluogi ymateb rheoleiddio cyflymach, yn cefnogi penderfyniadau gorfodi, ac yn gwella ymddiriedaeth y cyhoedd. Byddai monitro annibynnol, mewn amser real, yn lleihau anghydfodau rhwng trigolion, gweithredwyr a rheoleiddwyr, ac yn sicrhau bod amddiffyniadau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd yn cael eu cymhwyso'n gyson ledled Cymru.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd