Deiseb a gaewyd Mae angen i gwrs TGAU (Cwricwlwm Cymru) roi llawer mwy o ffocws ar hanes Cymru
Ar hyn o bryd, mae disgyblion ysgol yng Nghymru yn gadael ysgol yn gwybod mwy am hanes America a’r Almaen Natsïaidd nag am hanes eu gwlad eu hunain. Mae’r TGAU Hanes newydd sy’n cael eu cyflwyno ym mis Medi eleni yn debygol o waethygu’r sefyllfa hon hyd yn oed.
Mae angen eich cefnogaeth er mwyn sicrhau bod dysgu stori ein gwlad yn cael ei rhoi ar flaen y gad, gan roi cyfle i’n pobl ifanc ddeall a gwerthfawrogi hanes Cymru fel rhan ganolog o’u haddysg.
Rhagor o fanylion
Fe gafodd y cwrs TGAU Hanes newydd ei ohirio am flwyddyn y llynedd diolch i ymgyrch llwyddiannus gan athrawon hanes ledled Cymru a wrthwynebodd y newidiadau. Ar y pryd, roedd gobaith y byddai bwrdd arholi CBAC a Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu llais ac yn adolygu’r cwrs er gwell. Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd, ac mae’r sefyllfa’n parhau heb unrhyw newidiadau ystyrlon.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod