Deiseb a wrthodwyd Caniatáu i GIG Cymru dderbyn diagnosis ADHD preifat gan ddarparwyr y maent wedi'u gwerthuso a'u cymeradwyo
Mae'r rhan fwyaf o feddygfeydd teulu yng Nghymru yn gwrthod derbyn diagnosisau a phresgripsiynau ADHD gan gwmnïau preifat, er gwaetha’r ôl-groniad. Y rheswm a roddir yn aml gan feddygon teulu yw bod rhai cwmnïau yn ‘ddiegwyddor’ neu nad ydynt wedi'u gwirio. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i'r Senedd ganiatáu i GIG Cymru ailystyried hyn. Gallai GIG Cymru werthuso a chymeradwyo rhai darparwyr preifat, fel y maent wedi'i wneud ar gyfer cwmnïau gofal iechyd preifat sy'n cynnig gwasanaethau cleifion mewnol.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi