Deiseb Gwahardd Parcio ar y Palmant: Blaenoriaethu Diogelwch a Mynediad

Pan gaiff palmentydd eu blocio, caiff cerddwyr eu gwthio i'r briffordd, gan greu mannau cyfyng, llai o le i gerdded yn ddiogel, a chynnydd yn y drwgdeimlad rhwng cerddwyr, beicwyr a gyrwyr. Pan gaiff cerbydau eu parcio yn ymyl cyffyrdd a chroesfannau, mae hefyd yn creu mannau dall, gan rwystro llinellau gwelediad a'i gwneud hi'n anoddach i bawb sy’n defnyddio’r ffordd weld a chael eu gweld - sy’n ffactor hysbys ar gyfer cyfrannu at wrthdrawiadau.

Y gyfraith ddylai fod, os oes gan aelwyd ddreif, dylai’r lle hwnnw gael ei ddefnyddio ar gyfer parcio.

Rhagor o fanylion

Effaith ar Gerddwyr Agored i Niwed
Mae ymchwil gan Guide Dogs UK yn dangos gwir raddfa’r broblem i gerddwyr anabl:
• Mae 95% o bobl sydd wedi colli eu golwg yn dweud eu bod wedi wynebu anawsterau oherwydd cerbydau a oedd wedi cael eu parcio ar balmentydd. Ymhlith defnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd, mae'r ffigur yn uwch fyth, sef 99%. Canran y rhieni â phlant sy’n nodi problemau yw 98%, ac ymhlith pobl â cholled clyw y ganran yw 92%. O gymharu, mae cerddwyr heb anableddau yn dal i nodi lefelau uchel o amharu, sef 75%.

Llofnodi’r ddeiseb hon

5 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon