Deiseb Diwygio'r system basbortau ddigidol ar gyfer ceffylau i gynnwys hanes meddygol.
Mae ceffylau’n parhau i gael eu gwerthu heb i’w problemau iechyd sylfaenol gael eu datgelu (weithiau mae'r problemau hynny mor ddifrifol nes bod milfeddygon wedi argymell ewthanasia). Mae delwyr yn cuddio poen yr anifeiliaid ac yn eu gwerthu i unigolion diarwybod. Yn aml, nid yw pasbortau'n cael eu cadw yn enwau'r delwyr ac nid oes unrhyw hanes milfeddygol yn cael ei gofnodi ar y pasbort. Golyga hyn fod hwn yn fater lles anifeiliaid ac yn fater ynghylch tryloywder i ddarpar brynwyr. Dim ond hawliau defnyddwyr sy'n dod o dan sylw wrth brynu ceffylau ac nid yw’r rheini yn ystyried lles yr anifail o gwbl.
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod hanes milfeddygol a meddygol yn adran orfodol ar basbortau ceffylau ym Mhrydain Fawr.
Rhagor o fanylion
Yn ddiweddar, fe brynais i geffyl a aeth yn eithriadol o gloff ar ôl dim ond wythnos. Ar ôl imi wneud peth ymchwil, darganfyddais yn gyflym fod y ceffyl wedi cael diagnosis o arthritis difrifol nifer o flynyddoedd ynghynt ac roedd milfeddygon wedi argymell ewthanasia. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd hyn, a gwerthwyd y ceffyl ymlaen. Rhoddwyd cyffuriau iddo i guddio’r poen ac i ymddangos yn iach. Rhaid gwneud mwy i ddiogelu lles yr anifeiliaid hyn. Rhaid gwneud mwy i sicrhau bod pasbortau’n gywir ac yn gyfredol ac yn cynnwys yr holl hanes a diagnosis meddygol. Rhaid i’r milfeddyg a’r perchennog allu diweddaru pasbortau gyda'r wybodaeth angenrheidiol (yn enwedig pan fo milfeddyg yn credu y gallai hyn arwain at bryder lles yn y dyfodol) …. Dylem fod yn edrych i gyflwyno rhyw fath o basbort digidol y gellir ei ddiweddaru a'i drosglwyddo'n haws rhwng perchnogion.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd