Deiseb Sicrhau gosodiad parhaol ar gyfer cymeriadau a chwedlau o Bedair Cainc y Mabinogi

Mae Cymru ymhlith gwledydd hynaf Ewrop o ran trysorfa ei chwedloniaeth, ond, er hynny, mae ei mythau craidd yn anweladwy i raddau helaeth. Y Mabinogi, a’r Pedair Cainc yn enwedig, yw calon mytholeg a hunaniaeth Cymru – fe’u cedwir rhwng cloriau llawysgrifau canoloesol, ond mae ganddynt wreiddiau yn y tir ei hun. Er pwysiced y straeon hyn, nid oes yng Nghymru yr un gosodiad cyhoeddus parhaol i’w dathlu. Mae diwylliannau eraill yn tynnu sylw at eu chwedlau gyda balchder, ond mae mytholeg Cymru yn fater i unigolion ei darganfod, ac mae hynny’n cyfyngu ar addysg, gwelededd, a hyder cenedlaethol.

Rhagor o fanylion

Mae'r cynnig hwn yn galw am greu gosodiad cenedlaethol parhaol yn seiliedig ar y Mabinogi, ac ar y Pedair Cainc yn benodol. Byddai gosodiad o’r fath yn rhywle gweladwy, trochol lle byddai celf, dweud straeon, gwaith dehongli ac addysg yn dod â mytholeg Cymru yn fyw. Gyda naws perthyn i’w leoliad ac yn ddwyieithog ei natur, byddai'n dathlu cymeriadau, tirweddau a themâu chwedlonol Cymru, a hynny ar yr un pryd â chefnogi artistiaid, storïwyr ac addysgwyr yng Nghymru. Byddai'r gosodiad yn atgyfnerthu hyder diwylliannol, yn gwella addysg ac yn cynnig atyniad diwylliannol unigryw i ymwelwyr. Yn anad dim, byddai'n gydnabyddiaeth gyhoeddus o Gymru fel ffynhonnell ddiwylliannol mytholeg sy’n parhau, ac yn sicrhau y byddai’r Mabinogi yn cyrraedd y tu hwnt i archifau ac unigolion â diddordeb, i gael ei gydnabod fel mynegiant byw sy’n ganolog i hunaniaeth Cymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

17 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon