Deiseb Ymchwilio i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru a'u diwygio

Mae pobl ledled Cymru yn codi llais wrth nodi profiadau sy’n peri gofid iddynt ym maes gwasanaethau iechyd meddwl. Mae llawer yn sôn am ofal anniogel, amseroedd aros hir, diffyg atebolrwydd, a chael eu hanwybyddu wrth ofyn am help. Nid achosion ynysig yw'r rhain ond methiannau system gyfan a godwyd eisoes gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'r sefyllfa lle nad yw iechyd meddwl yn cael ei drin yn gyfartal ag iechyd corfforol yn parhau. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r gwasanaethau hyn ac i’w diwygio fel bod pobl yn cael gofal diogel, amserol a thrugarog.

Rhagor o fanylion

Mae pobl ledled Cymru yn sôn am brofiadau ym maes gwasanaethau iechyd meddwl sy’n peri pryder difrifol iddynt. Mae llawer yn sôn am ofal anniogel neu annigonol, amseroedd aros hir, diffyg atebolrwydd, a chael eu hanwybyddu neu eu diystyru wrth ofyn am help. Nid yw'r profiadau hyn yn rhai prin, ond maent yn adlewyrchu methiannau ehangach, parhaus o fewn y system.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru eisoes wedi nodi bod gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn destun pryder iddynt yn arbennig mewn pertynas â phrinder staff, gofal anghyson, a chyllid annigonol. Pan fydd gwasanaethau dan bwysau fel hyn, mae pobl sy’n agored i niwed yn cael eu gadael heb gymorth.
Dylid trin iechyd meddwl gyda'r un brys ag iechyd corfforol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gynnal ymchwiliad llawn, annibynnol ac i ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl mewn modd ystyrlon ledled Cymru, fel bod pobl yn cael eu trin ag urddas, gofal a pharch pan fyddant yn gofyn am gymorth.

Llofnodi’r ddeiseb hon

19 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon