Deiseb Diogelu Gofal Lliniarol Arbenigol yn Ysbyty Cwm Cynon

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg yn ymgynghori ar gynigion sy’n cynnwys cau’r ward Gofal Lliniarol Arbenigol, sydd ag wyth gwely, yn Ysbyty Cwm Cynon a chynyddu gofal cartref. Er bod gofal cartref yn bwysig, mae gwelyau arbenigol cleifion mewnol yn parhau i fod yn hanfodol i gleifion ag anghenion cymhleth, y rheini sydd heb gefnogaeth addas yn y cartref, a theuluoedd sydd angen seibiant. Byddai cael gwared ar y ward yn lleihau dewis a mynediad lleol at ofal diwedd oes.
Mae'r cynnig hwn yn effeithio ar drigolion ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae gofal lliniarol arbenigol cleifion mewnol yn cefnogi cleifion ag anghenion rheoli symptomau cymhleth, na ellir eu darparu’n ddiogel yn y cartref ar bob adeg. Mae hefyd yn darparu seibiant a sicrwydd clinigol i deuluoedd yn ystod amgylchiadau anodd iawn.

Rhagor o fanylion

Gofynnwn i'r Senedd geisio’r canlynol:
• Data meddiannaeth cyfredol a hanesyddol ar gyfer yr wyth gwely
• Rhagamcan o ran y galw yn y dyfodol
• Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a mynediad gwledig
• Manylion o ran sut y bydd darpariaeth cartref estynedig yn cael ei hariannu a’i staffio
Rhaid i unrhyw newid i’r gwasanaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth, a rhaid iddo ddiogelu dewis y claf.

Llofnodi’r ddeiseb hon

1,078 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon