Deiseb Gofal Iechyd Brys a Diogelwch Trigolion yn Sir Benfro - Ymyrraeth yn Ysbyty Llwynhelyg a’r Bwrdd Iechyd

Rydym yn galw am ymyrraeth ddiymdroi gan y llywodraeth i oruchwylio'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag Ysbyty Llwynhelyg ac adfer gwasanaethau hanfodol i sicrhau diogelwch a llesiant trigolion Sir Benfro. Nid yw’r straen a'r pryder y mae'r bwrdd iechyd yn ei achosi yn lleol yn rhywbeth sydd ei angen ar breswylwyr, meddygon teulu, gwasanaethau ambiwlans a’r sectorau gwirfoddol.

Rhagor o fanylion

Fel aelodau o sefydliad diogelwch cymunedol a thrigolion Sir Benfro, dyma ddatgan yn ffurfiol fod cyflwr presennol y gofal iechyd yn Ysbyty Llwynhelyg yn bygwth diogelwch y cyhoedd.

Yn rhy hir, mae ein gwasanaethau wedi cael eu canoli, eu hisraddio, neu eu cadw mewn cyflwr o ansicrwydd. Nid mater gweinyddol yn unig ydyw mwyach; mae'n argyfwng diogelwch. Am bob munud sy’n cael ei hychwanegu at daith ambiwlans a phob gwasanaeth sy'n cael ei dynnu o’n hysbyty lleol, mae’r risg i fywyd yn cynyddu.

Rydym yn galw ar y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn uniongyrchol, gwarantu gwasanaethau craidd, sicrhau safonau gofal, a dod â gwasanaethau yn ôl i Sir Benfro.

Mae pobl Sir Benfro yn haeddu system gofal iechyd sy'n creu diogelwch, nid ennyn pryder. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith y newidiadau sydd eu hangen i adfer gwasanaeth diogel, effeithiol a dibynadwy yn Ysbyty Llwynhelyg.

Llofnodi’r ddeiseb hon

967 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon