Deiseb a gaewyd Sefydlu un Bwrdd Iechyd Cenedlaethol i Gymru a Grymuso Ysbytai Sirol

Ers tri degawd, mae gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru wedi dirywio. Mae adrannau wedi cau neu gael eu hisraddio, mae gwasanaethau mamolaeth, iechyd meddwl, ac arbenigol wedi'u canoli neu eu dileu, ac mae amseroedd aros wedi cynyddu mewn modd annioddefol. Mewn rhai siroedd, mae'r ddarpariaeth wedi cyrraedd yr isafbwynt, lle na ellir gwarantu mynediad amserol at ofal hanfodol. Nid oes gennym unrhyw hyder yn y strwythur aml-fwrdd presennol, sydd wedi creu anghysondeb, dyblygu, gwneud penderfyniadau o bell ac atebolrwydd gwan. Mae Cymru yn genedl fach ac ni ddylai wynebu anghydraddoldeb cod post mewn gofal iechyd.

Rhagor o fanylion

Mae cleifion yn teithio ymhellach, mae staff wedi’u gorweithio, ac mae cymunedau'n teimlo eu bod wedi'u hanghofio.

Byddai un bwrdd iechyd cenedlaethol yn lleihau biwrocratiaeth, yn cryfhau goruchwyliaeth, ac yn sicrhau dosbarthiad tecach o gyllid a safonau.

Rhaid i ysbytai sirol fod ag awdurdod diffiniedig i reoli gwasanaethau lleol craidd ac ymateb i anghenion lleol. Mae gofal iechyd yn rhaff achub cyhoeddus. Ar ôl degawdau o ddirywiad, mae ymddiriedaeth wedi cael ei niweidio. Mae Cymru yn haeddu gwell.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,034 llofnod

Dangos ar fap

10,000