Deiseb Newid polisi’r dreth gyngor: dylai lletyau gwyliau dalu eu ffordd
Yn 2024, ni thalodd dros 10,000 o dai/fflatiau a ddefnyddiwyd fel llety gwyliau yng Nghymru unrhyw drethi o gwbl – dim treth gyngor, a dim trethi busnes: mae hyn yn golled o tua £48 miliwn mewn refeniw treth gyngor ar gyfer y flwyddyn honno yn unig.*
Rhagor o fanylion
Mae'r "bwlch" cyfreithiol yn caniatáu newid i dalu trethi busnes pan gyrhaeddir trothwy rhent**. Yna mae gwerth ardrethol isel yn golygu bod y perchnogion yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach o 100%: golyga hyn eu bod nhw’n talu dim. Rydym am i Lywodraeth Cymru gau’r "bwlch" treth gyngor hwn.
Mae'r ddeiseb hon hefyd am roi gwybod am y canlynol:
1. Dyfarnwyd taliadau Covid-19 o £10,000 i lawer o letyau gwyliau a restrir ar y gofrestr ardrethi busnes;
2. Amcangyfrifwyd bod y gost i Lywodraeth Cymru (2021-2022) o ddarparu rhyddhad ardrethi busnesau bach i letyau gwyliau yn £17 miliwn ***
Dylai’r dreth gyngor gael ei thalu ar dai/fflatiau sy'n cael eu marchnata a'u gwerthu fel eiddo domestig: mae nifer y nosweithiau rhent yn amherthnasol.
Cyfeiriadau:
*Gwybodaeth Rhyddid Gwybodaeth gan awdurdodau lleol yng Nghymru (2024); Treth gyngor Band "D" (a phremiwm lle bo'n berthnasol) a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifiadau.
**Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022.
***Memorandwm Esboniadol Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, dyddiedig 24 Mai 2022.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd