Deiseb Diwygio Gwasanaethau Meddygon Teulu’r GIG yng Nghymru – Symud i Feddygon Teulu Cyflogedig, Canolfannau Iechyd, ac Apwyntiadau Hygyrch

Mae'r rhan fwyaf o bractisau meddygon teulu yng Nghymru yn fusnesau preifat dan gontract i'r GIG. Mae'r model hwn yn creu gofal tameidiog sy’n seiliedig ar anghenion busnes, nid cleifion. Mae'r sgarmes ar y ffonau bob bore am 8 o’r gloch yn rhwystr i bobl sy'n gweithio, rhieni a gofalwyr. Mae practisau’n dweud yn barhaol bod y galw "yn uwch na'r arfer" – ond mae’n gyson: methiant yn y system ydyw, nid cynnydd sydyn. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud tuag at feddygon teulu cyflogedig, sefydlu Canolfannau Iechyd y GIG, a chyflwyno system archebu ymlaen llaw ac oriau estynedig.

Rhagor o fanylion

Mae'r model partneriaeth breifat yn rhoi’r rheolaeth dros staffio, oriau a mynediad yn nwylo’r practisau, gan greu loteri cod post ledled Cymru. Byddai cael meddygon teulu cyflogedig o dan Fyrddau Iechyd yn caniatáu mynediad safonol a chynllunio gweithlu strategol.
Mae practisau bach yn fregus - gall un ymddeoliad ansefydlogi meddygfa. Byddai Canolfannau Iechyd yn dod â meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr a staff iechyd meddwl ynghyd mewn cyfleusterau gwytnach a mwy eu maint a fyddai’n cynnig gofal tîm ac oriau estynedig.
Mae'r model ffonio am 8 y bore yn atal yn systematig y rhai sy’n methu ffonio dro ar ôl tro bob bore. Rhaid i archebu ymlaen llaw ac archebu ar-lein ddod yn safonol.
Pan fydd y galw yn fwy na'r capasiti yn barhaol, rhaid ailosod meincnodau a chynyddu'r capasiti - nid gostwng disgwyliadau.
Mae pob claf sy'n cael ei droi ymaith gan feddyg teulu yn creu pwysau posibl ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Diwygio gofal sylfaenol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn y GIG ehangach yng Nghymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

11 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon