Deiseb Integreiddio Addysg am Hil-laddiad ac Erchyllterau Torfol i'r Cwricwlwm i gefnogi'r cynllun Gwrth-Hiliaeth yng Nghymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau sy'n addas i’r oedran ar gyfer addysgu hil-laddiad ac erchyllterau torfol o fewn Cwricwlwm Cymru. Bydd astudiaethau achos cymharol, anragnodol, gan gynnwys Rwanda, Burundi, Bosnia, a'r Holocost, yn cefnogi gwrth-hiliaeth, hawliau dynol, dinasyddiaeth fyd-eang, cynhwysiant, a dysgu moesegol, gan helpu pobl ifanc i gydnabod a herio gwahaniaethu, meithrin empathi, dealltwriaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol, a chryfhau nod Cenedl Noddfa Cymru.

Rhagor o fanylion

Mae addysg am hil-laddiad ac erchyllterau torfol yn hanfodol ar gyfer meithrin empathi, rhesymu moesegol, a dinasyddiaeth ymgysylltiedig ymhlith pobl ifanc, a hynny drwy gyfleu sut mae rhagfarn a gwahaniaethu yn gallu dwysáu nes troi’n drais. Byddai addysg o’r fath yn cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru, gan ymgorffori addysg ataliol a dealltwriaeth o ddadleoli dan orfodaeth. Gellid ymgorffori canllawiau addas i oedran, anragnodol yn y Dyniaethau ac Iechyd a Llesiant. Byddai astudiaethau achos cymharol – yr Holocost, Hil-laddiad 1994 yn erbyn y Tutsi yn Rwanda, Ikiza 1972 yn Burundi, a’r Hil-laddiad ym Mosnia ym 1995 – yn galluogi dysgwyr i adnabod patrymau gwahaniaethu a thrais ar raddfa fyd-eang. Byddai canllawiau cenedlaethol yn cefnogi athrawon ac yn sicrhau bod addysg o ansawdd uchel ac yn atebol yn ei chrynswth.

Llofnodi’r ddeiseb hon

36 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon