Deiseb Rhaid Diogelu Adeiladau Cymunedol a Sicrhau Tryloywder wrth Ailddatblygu’r Stryd Fawr yng Nghymru
Ar hyd a lled Cymru, mae llawer o drefi a phentrefi yn colli adeiladau cymunedol hanesyddol, fel tafarndai a lleoliadau’r stryd fawr drwy gael eu hailddatblygu neu eu newid yn dai amlfeddiannaeth. Yn aml iawn, mae’r adeiladau hyn yn rhan bwysig o hunaniaeth lleol a bywyd cymdeithasol. Dim ond pan gaiff hysbysiadau ffurfiol eu cyhoeddi, yn aml, y daw trigolion yn ymwybodol o gynigion. Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau polisi cynllunio i ddiogelu adeiladau cymunedol a sicrhau tryloywder cliriach ac ymgynghori pan gaiff newidiadau mawr eu cynnig.
Rhagor o fanylion
Mae cynigion ailddatblygu diweddar mewn cymunedau fel Treherbert wedi codi pryderon am golli neu newid adeiladau cymunedol hirsefydlog. Yn aml iawn, dim ond pan gaiff hysbysiadau cynllunio eu cyhoeddi y daw trigolion yn ymwybodol o hyn.
Byddai tryloywder cliriach, ymgynghori cryfach a diogelu adeiladau cymunedol yn well yn helpu i sicrhau bod datblygiadau yn cefnogi cymunedau cynaliadwy ar hyd a lled Cymru.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd