Deiseb Gwneud seddi mewn safleoedd bws yn hygyrch

Mae safleoedd bws yng Nghymru yn dueddol o fod â bariau i bwyso arnynt - nid yw'r rhain yn hygyrch i bobl sy’n fyrrach na’r taldra cyfartalog. Mae hyn yn effeithio ar blant a’r henoed, sy’n fwy tebygol o fod yn fyrrach.

Pa bwrpas sydd i rywbeth fel mainc os nad yw pobl yn gallu ei defnyddio?
Mae lle i aros yn helpu pobl â symudedd cyfyngedig i gael mynediad at drafnidiaeth i’r dre.

Rhagor o fanylion

Rwy’n 4’11’’ ac mae’n rhaid i fi eistedd ar y llawr yn y safle bws, yn hytrach na defnyddio’r bar pwyso, sy’n uwch nag uchder y glun.

Ni fyddai hyn yn bosibl i rywun sydd â’r un taldra â mi, ond yn berson hŷn.
Dylai meinciau fod yn ddigon isel i eistedd arnynt, ac ni ddylent fod ar ongl, fel bod pobl â phroblemau yn eu cymalau yn gallu eu defnyddio.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod meinciau sy’n bodloni anghenion pob teithiwr ym mhob safle bws newydd neu sy’n cael ei adnewyddu.

Llofnodi’r ddeiseb hon

12 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon