Deiseb Mae angen pwll nofio 50 metr yng ngogledd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae angen i nofwyr o ogledd Cymru deithio naill ai i dde Cymru neu i Loegr er mwyn cael mynediad i bwll nofio 50 metr, sy’n annheg a hefyd yn colli’r refeniw y gall twristiaeth ei gyflwyno.
I greu Cymru gynhwysol ac i atal y rhaniad sylweddol o ran cyfleoedd rhwng gogledd a de Cymru, dylai fod o leiaf un pwll 50m yn y gogledd. A rhagor o gaeau 3G a 4G.
Bydd hyn yn rhoi cyfle cyfartal i blant a darpar athletwyr hyfforddi a chystadlu ar y lefel uchaf.

Llofnodi’r ddeiseb hon

539 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon