Deiseb Mae angen cynorthwyo gyda newidiadau mawr i'r problemau parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru.
Hoffwn i Lywodraeth Cymru drafod y mater hirhoedlog hwn a gwneud newidiadau i flaenoriaethu’r defnydd o’r maes parcio yn Ysbyty Maelor ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr. Mae'n ardal enfawr, ond mae'n gwbl llawn cyn 9.00am. Mae cleifion yn colli apwyntiadau. Mae angen rhwystrau, ffordd i gleifion ac ymwelwyr efallai ddefnyddio sgan QR ar eu llythyrau apwyntiad a ffi resymol i atal defnyddwyr yr ysbyty nad oes ganddynt gysylltiad â hi rhag cael mynediad am ddim.
Rhagor o fanylion
Rwyf wedi cael profiad personol o geisio parcio fy nghar ar gyfer apwyntiadau ac wedi gorfod mynd i ganol y dref a thalu i barcio mewn maes parcio gwag y cyngor ac yna gerdded 15 neu 20 munud yn ôl i fyny i'r ysbyty. Mae gen i arthritis a chyflwr ar y galon ac rwy'n credu ei bod yn hunanol ac yn amharchus iawn disgwyl i bawb, gan gynnwys pensiynwyr a theuluoedd ifanc, orfod gwneud hyn. Mae'n achosi llawer o boen a straen.
Helpwch i wella'r sefyllfa hon os gwelwch yn dda. Mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. Rhaid gwneud rhywbeth.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd