Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.

Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad

Deiseb Gwybodaeth ôl-ofal a gofal dilynol wedi’u safoni ar ôl llawdriniaeth endometriosis

Mae cleifion yn aml yn cael eu rhyddhau heb ganllawiau clir ac maent yn aros misoedd am apwyntiad dilynol, waeth pa mor ddifrifol yw’r llawdriniaeth.
Ar y llaw arall, mae’r GIG yn rhoi gwybodaeth wrth ryddhau cleifion ar gyfer llawer o gyflyrau eraill, a hynny fel mater o drefn.

Rydym yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod y GIG yn rhoi gwybodaeth wedi’i safoni ar sail difrifoldeb ar ôl llawdriniaeth ar gyfer endometriosis, gan gynnwys amseroedd gwella, canllawiau ynghylch gwaith/gweithgarwch, symptomau baner goch ac ati, a fydd yn gwella diogelwch cleifion, canlyniadau adfer a chysondeb y gofal.

82 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon