Deiseb Adfer y cymorth ariannol am wythnosau ychwanegol i fyfyrwyr bwrsariaeth nyrsio a bydwreigiaeth y GIG.
Nid yw llawer o nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant yn gallu cael deupen llinyn ynghyd, ac ni allant hawlio budd-daliadau'r wladwriaeth oherwydd eu bod mewn addysg uwch, a hynny hyd yn oed os oes ganddynt ddibynyddion. Disgwylir iddynt hefyd fynychu lleoliadau HEB DÂL yn gweithio patrymau shifft llawn 12.5 awr yr un fath â nyrs neu fydwraig gofrestredig. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru bellach wedi dileu'r lwfans wythnosau ychwanegol ar gyfer cyrsiau dros 30 wythnos a 3 diwrnod o fenthyciadau myfyrwyr oherwydd newid ym mholisi Llywodraeth Cymru os oes gan y myfyriwr Fwrsariaeth y GIG, sy’n gwaethygu caledi.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd